a Geiriau sy'n cyfuno Eseia 26:19; 51:17; 52:1; 60:1

Ephesians 5

Byw fel mae Duw eisiau

1Felly dilynwch esiampl Duw, gan eich bod yn blant annwyl iddo. 2Dylech fyw bywydau llawn cariad, yn union fel gwnaeth y Meseia ein caru ni a marw yn ein lle ni. Rhoddodd ei hun fel offrwm ac aberth oedd yn arogli'n hyfryd i Dduw.

3Ddylai bod dim awgrym o anfoesoldeb rhywiol yn agos atoch chi, nac unrhyw fochyndra, na chwant hunanol chwaith! Dydy pethau felly ddim yn iawn i bobl sydd wedi cysegru eu bywydau i Dduw. 4Dim iaith anweddus, siarad dwl a jôcs budron chwaith – does dim lle i bethau felly. Yn lle hynny dylech chi ddiolch i Dduw. 5Dych chi'n gallu bod yn hollol siŵr o hyn: dim Duw a'i Feseia sy'n teyrnasu ym mywydau'r bobl hynny sy'n byw'n anfoesol, neu'n aflan, neu'n bod yn hunanol – addoli eilun-dduwiau ydy peth felly! 6Peidiwch gadael i neb eich twyllo gyda'u geiriau gwag. Mae'r bobl yma yn gwneud Duw yn ddig, a bydd yn dod i gosbi pawb sy'n anufudd iddo. 7Felly peidiwch ymuno gyda nhw.

8Ar un adeg roeddech chi yn y tywyllwch, ond bellach mae golau'r Arglwydd yn disgleirio ynoch chi. Dylech fyw mewn ffordd sy'n dangos eich bod chi yn y golau. 9Pethau da a chyfiawn a gwir ydy'r ffrwyth sy'n tyfu yn y golau. 10Gwnewch beth sy'n plesio'r Arglwydd. 11Peidiwch cael dim i'w wneud â'r math o ymddygiad sy'n perthyn i'r tywyllwch. Na, ewch ati i ddangos mor ddrwg ydyn nhw. 12Mae'n warthus hyd yn oed sôn am y pethau mae pobl yn eu gwneud o'r golwg. 13Ond pan mae'r golau yn disgleirio mae'r cwbl yn dod i'r golwg. 14Mae'r golau yn dangos pethau fel y maen nhw go iawn. Dyna pam mae'n cael ei ddweud:

“Deffra, ti sydd yn cysgu
tyrd yn ôl yn fyw!
a bydd golau'r Meseia yn disgleirio arnat ti.” a

15Felly, gwyliwch sut dych chi'n ymddwyn. Peidiwch bod yn ddwl – byddwch yn ddoeth. 16Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni, achos mae digon o ddrygioni o'n cwmpas ni ym mhobman. 17Peidiwch gwneud dim yn ddifeddwl; ceisiwch ddeall bob amser beth mae'r Arglwydd eisiau. 18Peidiwch meddwi ar win – dyna sut mae difetha'ch bywyd. Yn lle hynny, gadewch i'r Ysbryd Glân eich llenwi a'ch rheoli chi. 19Canwch salmau ac emynau a chaneuon ysbrydol i'ch gilydd – canwch fawl yn frwd i'r Arglwydd. 20Diolchwch i Dduw y Tad am bopeth bob amser, o achos y cwbl mae'r Arglwydd Iesu Grist wedi ei wneud.

Perthynas Gwragedd a Gwŷr

21Dylech fod yn atebol i'ch gilydd fel arwydd o'ch parch at y Meseia ei hun. 22Chi'r gwragedd i'ch gwŷr fel i'r Arglwydd ei hun. 23O'r gŵr mae'r wraig yn tarddu, fel mae'r eglwys yn tarddu o'r Meseia (rhoddodd ei fywyd i'w hachub hi!) 24Felly, fel mae'r eglwys yn atebol i'r Meseia, rhaid i chi'r gwragedd fod yn atebol i'ch gwŷr ym mhopeth.

25Chi'r gwŷr, rhaid i chi garu eich gwragedd yn union fel mae'r Meseia wedi caru'r eglwys. Rhoddodd ei fywyd yn aberth drosti, 26i'w chysegru hi a'i gwneud yn lân. Mae dŵr y bedydd yn arwydd o'r golchi sy'n digwydd drwy'r neges sy'n cael ei chyhoeddi. 27Mae'r Meseia am gymryd yr eglwys iddo'i hun fel priodferch hardd – heb smotyn na chrychni na dim arall o'i le arni – yn berffaith lân a di-fai. 28Dyna sut ddylai gwŷr garu eu gwragedd – fel eu cyrff eu hunain! Mae'r gŵr sy'n caru ei wraig yn ei garu ei hun! 29Dydy pobl ddim yn casáu eu cyrff eu hunain – maen nhw'n eu bwydo nhw a gofalu amdanyn nhw. A dyna sut mae'r Meseia yn gofalu am yr eglwys, 30gan ein bod ni'n wahanol rannau o'i gorff e. 31Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth fel hyn: “bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.” b 32Mae rhyw wirionedd mawr yn guddiedig yma – sôn ydw i am berthynas y Meseia a'i eglwys. 33Beth bynnag, dyna ddylai pob un ohonoch chi ei wneud – caru ei wraig fel mae'n ei garu ei hun, fel bod y wraig wedyn yn parchu ei gŵr.

Copyright information for CYM